Rhif y ddeiseb: P-06-1400  

Teitl y ddeiseb:  Adnoddau teg a digonol ar gyfer practisau cyffredinol yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:  

Mae practisau cyffredinol yng Nghymru dan straen sylweddol a chynyddol. Mae nifer y meddygon teulu yn gostwng, mae'r galw yn cynyddu, ac mae practisau'n cael trafferth recriwtio a chadw staff.

Mae practisau cyffredinol yn cael eu gorfodi i geisio ymdopi ag adnoddau annigonol, llwyth gwaith anghynaliadwy, a gweithlu sydd o dan bwysau ledled Cymru, gyda rhai meysydd mewn argyfwng.

Mae’r diffyg capasiti a welir ar hyn o bryd yn deillio o broblemau hirsefydlog o ran llwyth gwaith, y gweithlu, a llesiant, sy’n gysylltiedig â thanariannu cronig ym maes gwasanaethau meddygol cyffredinol.

Mae ymgyrch gan BMA Cymru Wales, sef Achubwch ein Meddygfeydd, yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i becyn achub ar gyfer practisau cyffredinol, a hynny er mwyn sicrhau bod gan feddygon teulu a'u cleifion y cymorth sydd ei angen arnynt.

Drwy roi munud o’ch amser i lofnodi’r ddeiseb hon, gallwch ategu ein galwadau ar i Lywodraeth Cymru ddarparu pecyn achub ar gyfer practisau cyffredinol.

 


1.        Y cefndir

Mae Ymgyrch Achubwch Ein Meddygfeydd BMA Cymru Wales yn amlygu, yn ystod y deng mlynedd diwethaf:

§    mae nifer y cleifion sydd wedi'u cofrestru mewn practisau meddygon teulu yng Nghymru wedi cynyddu 93,317 (2.9 y cant);

§    mae nifer y practisau wedi gostwng o 470 i 386 (18 y cant);

§    mae nifer y meddygon teulu cyfwerth ag amser llawn wedi gostwng 456 (21.7 y cant) o 1901 i 1445;

§    bu cynnydd ym maint rhestr practisau cyfartalog o 6780 i 8378 o gleifion (23.5 y cant);

§    mae nifer y cleifion fesul meddyg teulu cyfwerth ag amser llawn wedi codi o 1675 i 2210, sef cynnydd o 32 y cant.

Mae’n galw am gamau brys i ymrwymo i’r canlynol: cyllido ymarfer cyffredinol yn briodol; buddsoddi yn y gweithlu practis cyffredinol; cynhyrchu strategaeth gweithlu, a; mynd i’r afael â llesiant staff

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Mae practis cyffredinol yn elfen graidd o ofal sylfaenol – y gwasanaethau hynny sy’n darparu’r pwynt cyswllt cyntaf yn y GIG. Mae cynllun gweithlu strategol ar gyfer gofal sylfaenol wedi'i ddatblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a'r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid. Disgwylir iddo gael ei lansio yng ngwanwyn 2024.

Cam gweithredu allweddol yn strategaeth 10 mlynedd gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol AaGIC (Hydref 2020) yw cyflwyno Fframwaith Iechyd a Llesiant ar draws y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, gan osod safonau clir a mesuradwy er mwyn helpu i ysgogi gwelliant.

Mae’r rhan fwyaf o feddygon teulu yng Nghymru yn gontractwyr annibynnol, wedi’u comisiynu gan y Bwrdd Iechyd perthnasol i ddarparu gofal o dan y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Chwefror 2024, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y trafodaethau ar gyfer contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol 2023-24 wedi dod i ben. Dywedodd:

Rwyf wedi clywed cryfder teimladau meddygon teulu ynghylch dyfodol ymarfer cyffredinol, drwy’r ymgyrch Achubwch Ein Meddygfeydd. Mae’r teimladau hyn wedi’u cadarnhau hefyd gan y ddeiseb a gyflwynwyd i’r Senedd. […] Rwy'n croesawu bod datrysiad ymarferol wedi’i ganfod. Bydd buddsoddiad o £20m yn cael ei wneud mewn gwasanaethau meddygol cyffredinol ar adeg o gyfyngiadau ariannol sylweddol. Ar yr un pryd, rwy’n cydnabod hefyd nad yw'r canlyniad y flwyddyn hon yn datrys yn llwyr y mater parhaus o sicrhau cynaliadwyedd mewn ymarfer cyffredinol. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i ddatblygu ein blaenoriaethau a rennir dros y flwyddyn sydd i ddod.

Yn ei hymateb i’r ddeiseb (llythyr dyddiedig 11 Mawrth 2024), tynnodd y Gweinidog sylw hefyd at y camau a gymerwyd drwy’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru, i leihau'r galw ar feddygon teulu. Mae’n cynnwys cyflwyno gwasanaeth 111 GIG Cymru, a buddsoddi mewn gofal cymunedol a staff practisau cyffredinol:

Rydym wedi buddsoddi £12 miliwn dros gyfnod o dair blynedd i alluogi practisau i adeiladu ar eu capasiti drwy gael staff ychwanegol, ac rydym yn gweld cynnydd yn nifer y nyrsys a'r staff gofal cleifion uniongyrchol a gyflogir mewn practisau cyffredinol, er mwyn helpu cleifion i gael mynediad at ofal. Bydd y Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol Unedig newydd hefyd yn helpu i leihau biwrocratiaeth a rhyddhau mwy o amser i feddygon teulu weld cleifion. [WSL(CyS|S1] 

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Nid yw’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cynnal unrhyw ymchwiliadau penodol i bractis cyffredinol (neu ofal sylfaenol yn ehangach) yn y Chweched Senedd, er bod materion perthnasol wedi’u codi, er enghraifft yn y gwaith craffu ar y gyllideb, ymchwiliad presennol y Pwyllgor i gefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig, a gwaith parhaus ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol (nodwyd 'gweithlu' gan y Pwyllgor fel un o'i faterion â blaenoriaeth ar gyfer tymor y Senedd hon). 

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 


 [WSL(CyS|S1]I can’t seem to format this - sorry!